Gall byw gyda chyflwr anadlol a rheoli gofynion triniaethau gael effaith enfawr ar fywydau dydd i ddydd a lles meddyliol pobl. Gallai effeithio ar eich gweithgaredd o ddydd i ddydd, eich cwsg, eich rolau, eich perthnasoedd a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae'n normal iawn teimlo amrywiaeth o emosiynau, er enghraifft pryder, gorbryder, dicter a thristwch. Rydym hefyd yn gwybod y gall ffactorau seicolegol gael effaith ar symptomau anadlol a’r ffordd y mae pobl yn rheoli eu cyflwr.
Fel rhan o'n timau anadlol gofal eilaidd, mae gennym wasanaeth seicoleg anadlol pwrpasol i gefnogi pobl sydd gydag effaith emosiynol eu cyflwr anadlol. Nod y gwasanaeth seicoleg yw:
Rydym yn cynnig therapi seicolegol 1-1 a gweithdai seicoleg. Mae'r seicolegydd hefyd yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn ein timau anadlol i gefnogi gofal cleifion.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth drwy edrych ar ein taflen wybodaeth i gleifion, neu drwy siarad â chlinigydd o fewn y gwasanaethau anadlol (er enghraifft, eich ymgynghorydd anadlol neu nyrs arbenigol).
Rydym hefyd wedi cynnwys y wybodaeth ganlynol a dolenni i wasanaethau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi.