Y brechlyn MMR yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (a elwir hefyd yn frech goch yr Almaen). Ers iddo gael ei gyflwyno ym 1988, mae'r clefydau hyn wedi dod yn brin yn y DU. Ond weithiau mae achosion yn digwydd (yn enwedig achosion o'r frech goch), pan nad yw digon o bobl yn cael eu brechu.
Mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn glefydau sy'n lledaenu'n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi cael y brechlyn. Mae'r clefydau hyn fel arfer yn ysgafn, ond weithiau gallant achosi problemau difrifol, gan gynnwys:
Er bod plant yn cael cynnig brechiadau arferol yn erbyn y Frech Goch, gall oedolion nad ydynt wedi cael eu brechu hefyd fod mewn perygl o ddal y Frech Goch.
O 1 Ionawr 2026 ymlaen, bydd plant yn cael eu hail apwyntiad brechu MMR yn gynharach, mewn apwyntiad newydd 18 mis oed. Rhoddwyd y brechlyn hwn yn flaenorol yn 3 blynedd a 4 mis oed.
Dangoswyd bod cael yr ail ddos o MMR yn gynharach yn amddiffyn mwy o blant yn gynt .
Mae hyn yn rhan o newidiadau eraill i'r amserlen imiwneiddio plant yng Nghymru ar gyfer 2025 a 2026.
Dysgwch fwy drwy glicio ar y ddolen isod: Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio plant
Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent “Mae’r frech goch yn ddifrifol iawn a gall fod yn angheuol. Gall wneud plant yn sâl iawn ac arwain at gymhlethdodau pellach a allai arwain at fynd i’r ysbyty. Y ffurf orau o amddiffyniad yw’r brechlyn MMR (y Frech Goch, Clwy’r Pennau a Rwbela). Rydym yn galw ar bob rhiant a gwarcheidwad i wneud yn siŵr bod eu plant yn gyfredol â’u 2 ddos MMR.”
Mae ein data lleol yn dangos bod 94.7%* wedi cael y brechlyn MMR cyntaf, fodd bynnag, dim ond 88.4% sydd wedi mynd ymlaen i gael eu hail ddos. Mae'n bwysig bod pob plentyn yn cael cwrs llawn y brechlyn MMR er mwyn sicrhau eu bod wedi'u hamddiffyn rhag salwch difrifol.
Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn MMR, p'un a ydych chi'n blentyn neu'n oedolyn. Byddwn yn annog pobl i gael y brechlyn MMR, mae hyn yn bwysig ar gyfer iechyd unigol ac atal trosglwyddo ar draws ein cymunedau.
Gall trigolion Gwent gerdded i mewn i'n Canolfan Frechu i gael eu brechiad, ffonio eu Meddyg Teulu neu gysylltu â'n tîm Nyrsio Ysgol .
Adnabod y Frech Goch
Mae'r frech goch fel arfer yn dechrau gyda symptomau tebyg i annwyd, (e.e. tymheredd uchel, trwyn yn rhedeg neu'n flocedig, tisian, peswch neu lygaid coch, dolurus, dyfrllyd) ac yna brech ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Gall rhai pobl hefyd gael smotiau gwyn bach yn eu ceg.
Gwirio statws eich brechiad MMR a threfnu apwyntiad brechu
Dywedodd yr Athro Daszkiewicz “ “ Gall unrhyw un sydd heb gael eu brechlyn MMR archebu apwyntiad neu wirio eu statws brechu MMR drwy ffonio eu meddyg teulu neu gerdded i mewn i’n Canolfan Frechu, mae rhagor o wybodaeth am ble y gallwch gael eich brechlyn ar gael yma: Clinigau Brechu Dros Dro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
"Mae'r frech goch yn salwch difrifol iawn a gellir ei atal trwy frechu. Byddwn yn annog pobl i fynychu i gael brechiad os nad ydyn nhw wedi cael un, mae hyn yn bwysig ar gyfer iechyd unigol ac atal trosglwyddo ar draws ein cymunedau."
Os ydych chi'n amau bod gan eich plentyn y Frech Goch, arhoswch gartref a ffoniwch eich Meddyg Teulu i wneud apwyntiad brys neu ffoniwch 111.
Am ragor o wybodaeth am y Frech Goch ewch i: 111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/m/article/measles/