Gellir cael sgwrs gydag asesydd Cerdyn C cymwysedig ynglŷn â pherthnasoedd, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, sut i ddefnyddio condom ac ati. Gall hefyd roi condomau i ti.
Mae’r wybodaeth mae’r person ifanc yn ei rhoi yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhoi i unrhyw un arall. Mae’n bosibl y bydd angen i’r asesydd siarad â rhywun arall os yw’n meddwl bod person ifanc mewn perygl, ond bydd bob amser yn ceisio siarad â’r person ifanc cyn gwneud hyn.
Os wyt ti’n poeni am hyn, trafoda gyda’r asesydd Cerdyn C cyn rhoi’r wybodaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno'r Cynllun Cerdyn C neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at gwent.ccard@wales.nhs.uk