Mae ymgysylltu yn ymwneud â chynnwys pobl a sefydliadau lleol yng ngwaith y Bwrdd Iechyd, gyda'r bwriad o sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth; yn gallu rhoi adborth ar wasanaethau y gallent fod wedi'u defnyddio; a dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau yn eu hardal yn y dyfodol a sicrhau bod barn pobl leol yn bwydo i mewn i sut, pryd a lle y darperir gwasanaethau gofal iechyd.
Ar y tudalennau hyn, gellir ddarganfod ble mae'r Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu, pa bynciau sy'n cael eu codi a pha ymgynghoriadau neu gyfleoedd i ddylanwadu ar y gwasanaethau sydd ar gael. Gellir hefyd ddod o hyd i wybodaeth am ein sesiynau ymgysylltu, ein trafodaethau cymunedol cyffredinol a'r hyn y mae pobl yn gofyn i ni amdanynt.