Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu Strôc yn y Dyfodol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am yr holl wasanaethau iechyd ar draws hen sir Gwent (gan gynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen) a rhywfaint o boblogaeth Dde Powys.

Rydym yn ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch y trefniadau hirdymor ar gyfer gwasanaethau adsefydlu strôc, a gafodd eu canoli mewn un ysbyty dros dro yn 2023, a hoffem gael barn pobl ar y trefniadau gorau ar gyfer y tymor hir.

Rydym wedi cynhyrchu'r dogfennau isod i nodi ein ffordd o feddwl a'r egwyddorion yr hoffem eu defnyddio wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut mae gwasanaethau'n cael eu trefnu yn y dyfodol. Mae'n bwysig bod gan bawb sydd â diddordeb yn ein gwasanaethau gyfle i ddeall y cynigion a rhoi gwybod eu barn i ni.

Er mwyn sicrhau y gall y cyhoedd ystyried y cynigion, mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda Llais (a elwid yn gynt yn Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan) ac mae cyfnod o ddeuddeg wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd wedi'i drefnu. Bydd hyn yn rhedeg o Ddydd Llun 27 Hydref 2025 tan Ddydd Gwener 30 Ionawr 2026.

Sut gall pobl fynegi eu barn?

Gellir rhannu barn drwy unrhyw un o'r dulliau canlynol:

Arolwg:

Cwblhewch ein harolwg, y gellir cael mynediad iddo drwy'r URL neu'r cod QR isod:

 

 

 

 

 

 

 

 

URL: https://forms.office.com/e/240EWsFa37

Efallai yr hoffech ei sganio hefyd, neu dynnu llun o ansawdd da a'i e-bostio atom ni yn: ABB.PlanningDepartment@wales.nhs.uk

 

Cyfarfodydd Cyhoeddus

Dewch i gyfarfod cyhoeddus, lle gallwch wrando ar gyflwyniad, dysgu mwy am y cynnig a gofyn unrhyw gwestiynau i staff y Bwrdd Iechyd.

Byddwn yn gwneud ein gorau i gyflawni eich gofynion er mwyn i chi allu cymryd rhan lawn yn y cyfarfod. Os oes gennych nam ar eich lleferydd neu anawsterau cyfathrebu hysbys a hoffech drafod ein cynlluniau gyda rhywun a/neu hoffech ein helpu gyda'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau adsefydlu strôc, cysylltwch â ni ar:

E-bost: ABB.PlanningDepartment@wales.nhs.uk

 

Rhowch wybod i ni o leiaf wythnos ymlaen llaw os oes gennych unrhyw ofynion arbennig megis dolenni clyw, dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, mynediad i gadeiriau olwyn, ac ati.

 

Mae'r cyfarfodydd wedi'u trefnu fel a ganlyn:

Amserlen Digwyddiadau

Dyddiad

Amser Cyfarfod

Lleoliad

Dydd Iau 6 Tachwedd 2025

4.30pm - 6pm

Canolfan Addysg, Ysbyty Ystrad Fawr, Ffordd Ystrad Fawr, Ystrad Mynach, CF82 7GP

Dydd Iau 13 Tachwedd 2025

4.30pm – 6pm

The Olive Tree, Ffordd Edlogan, Cwmbrân, NP44 2JJ

Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025

5.30pm – 7pm

Ystafell Roberts, Canolfan Bridges, Parc Drybridge, Trefynwy, NP25 5AS

Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025

4pm – 5.30pm

Canolfan Tabor, 18 Stryd Davies, Brynmawr, NP23 4AD

Dydd Llun 15 Rhagfyr 2025

5pm – 6.30pm

Canolfan Stocktonville, Heol Gelli, Tredegar, NP22 3RD

Dydd Mercher 7 Ionawr 2026

5.30pm – 7pm

Canolfan Addysg, Ysbyty Nevill Hall, Heol Aberhonddu, Y Fenni, NP7 7EG

Dydd Mercher 14 Ionawr 2026

3.30pm – 5pm

Canolfan Gymunedol Parc Stow, Heol Brynhyfryd, Casnewydd, NP20 4FX

Dydd Llun 19 Ionawr 2026

4pm – 5.30pm

Sesiwn ar-lein drwy Teams

Dydd Mercher 28 Ionawr 2026

5.30pm – 7pm

Ystafell Dennis Puddle, Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, Stryd Fawr, Blaenafon, NP4 9PT

Yn ogystal â'r cyfarfodydd cyhoeddus, mae gennym hefyd ein rhaglen ymgysylltu gymunedol reolaidd, y gellir dod o hyd i'r manylion amdani drwy'r ddolen hon: Ym mhle byddwch chi'n dod o hyd i ni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)

Yn y sesiynau ymgysylltu cymunedol hyn, bydd gan staff cyfathrebu ac ymgysylltu gwybodaeth am y cyfarfodydd cyhoeddus sy'n digwydd a chopïau papur o'r papur briffio a'r arolwg gyda nhw i bobl eu cwblhau yno os dymunant.

 
Cysylltwch â Ni:

Drwy e-bost gydag unrhyw sylwadau neu os hoffech ymuno â'r sesiwn ar-lein uchod, cofrestrwch eich presenoldeb drwy anfon e-bost atom yn ABB.PlanningDepartment@wales.nhs.uk a byddwn yn trefnu anfon dolen atoch ar gyfer y sesiwn.

 

Cyfrannwch at unrhyw sgyrsiau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd.