Felly, sut ydyn ni'n bwyta'n dda?
Mae bwyta'n dda yn golygu bwyta cydbwysedd o fwydydd iach, yn y mathau cywir a'r meintiau dognau cywir. Mae bwyta'n iach yn lleihau ein tebygolrwydd o gael rhai clefydau, fel rhai mathau o ganser neu glefyd y galon. Mae bwyta'r swm cywir o fwyd hefyd yn ein helpu i gynnal pwysau corff iach.
Pethau syml i roi cynnig arnynt:
Mwynhau gwneud bwyd
Gall, a dylai coginio a bwyta fod yn broses bleserus y gall pawb ei phrofi. Mae bwyd yno i roi egni i ni a'n cadw'n iach, ond gall hefyd fod yn ffordd wych o dreulio amser gydag eraill, i ddatblygu sgiliau coginio, ac i fod yn greadigol yn y gegin.
Chwilio am ysbrydoliaeth prydau bwyd?
Chwilio am ysbrydoliaeth prydau bwyd? Lawrlwythwch ein cardiau ryseitiau rhad ac am ddim , gyda chynhwysion wedi'u rhestru a chanllawiau cam wrth gam sy'n cwmpasu ystod o syniadau brecwast, cinio a swper blasus a maethlon.
Cydbwyso ein Plât - Y Canllaw Bwyta'n Iach
Edrychwch ar y Canllaw Bwyta'n Iach i gael rhagor o wybodaeth am grwpiau bwyd, adeiladu eich plât gyda'r cydbwysedd cywir o faetholion, maint dognau, yn ogystal ag awgrymiadau a gwybodaeth bwyta'n iach eraill.
Gellir defnyddio’r Canllaw Bwyta’n Iach i’ch helpu i ddeall sut beth yw pryd cytbwys. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio y bydd y cydbwysedd cywir o faetholion a meintiau dognau yn edrych yn wahanol i bawb - nid oes 'un maint i bawb'.
Mae'n rhoi gwybodaeth am y rhaniad o wahanol faetholion y dylem anelu at eu cynnwys ym mhob pryd, yn ogystal ag awgrymiadau o fwydydd y dylem geisio bwyta llai ohonynt.