Os ydych chi'n poeni am eich pwysau a'ch iechyd - rydyn ni yma i helpu. Rydym yn deall y gall cyflawni a chynnal pwysau iach fod yn heriol i lawer o bobl, ac mae taith pwysau pob person yn wahanol.
Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth o rhai lleol i rhai cenedlaethol y gallwch gael mynediad iddynt, yn rhad ac am ddim.
Ddim yn gwybod ble i ddechrau?
Gall gwybod ble i ddechrau wrth geisio cyflawni neu gynnal pwysau iach fod yn her weithiau.
I ddysgu mwy am ddeall pwysau, ewch i Deall Pwysau - Pwysau Iach Byw'n Iach.
Pan fyddwch chi'n barod, defnyddiwch yr adnodd dod o hyd i'ch siwrne ar-lein i gychwyn eich taith pwysau iach.
Dysgwch fwy am y gwahanol deithiau sydd ar gael wrth gychwyn ar eich taith pwysau iach.
Cyfrifiannell BMI
Er mwyn cymryd rhan yn y rhan fwyaf o raglenni neu wasanaethau, bydd angen i chi wybod eich mynegai màs y corff (BMI). Os nad ydych chi'n gwybod eich BMI ar hyn o bryd, gallwch chi ei gyfrifo'n hawdd gan ddefnyddio'r adnodd ar-lein hwn.
GIG 111 Cymru - Byw a Theimlo'n Iach : Cyfrifiannell BMI