Mae'r Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar (EPAU) yn monitro cynnydd beichiogrwydd a chynnig triniaeth ar gyfer cymhlethdodau beichiogrwydd cynnar. Mae'r uned wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ac mae'n derbyn atgyfeiriadau o Dorfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent. Mae staff yr uned yn fedrus wrth reoli cymhlethdodau beichiogrwydd cynnar, gan gynnwys sganio uwchsain.
Mae'r gwasanaeth o fudd mawr i gleifion gan ei fod yn helpu i leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty.