Mae llawer o bobl sydd â chyflyrau ar yr ysgyfaint yn mynd yn fyr eu hanadl wrth wneud gweithgareddau. Gall bod yn fyr o wynt arwain at leihau eich gweithgaredd cyffredinol ac mae hyn yn arwain at lefelau is o ffitrwydd.
Mae adsefydlu ysgyfeiniol yn gwrs y dangoswyd ei fod yn gwella ffitrwydd, ennill mwy o wybodaeth am gyflwr eich ysgyfaint a chwrdd â phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg.
Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer unrhyw gleifion sydd wedi cael diagnosis o gyflwr anadlol fel COPD, Asthma, Ffibrosis yr Ysgyfaint, Sarcoidosis a Bronciectasis.
Mae'n addas ar gyfer person sydd â chymhelliant i wella rheolaeth eu cyflwr ysgyfaint
Mae'r cwrs yn rhedeg dros wyth wythnos gan gynnwys asesiad cyn ac ar ôl y cwrs gyda rhaglen chwe wythnos yn rhedeg ddwywaith yr wythnos. Cefnogir pob rhaglen gan dîm amlddisgyblaethol fel Ffisiotherapyddion, Nyrsys Anadlol, a Hyfforddwyr Ymarfer Corff. Mae pob sesiwn yn cynnwys awr o ymarfer corff ac awr o addysg gyda chefnogaeth amrywiol weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae cymorth ar roi'r gorau i ysmygu hefyd ar gael ym mhob ardal.
Profwyd bod adsefydlu’r ysgyfaint yn helpu mewn sawl ffordd:
Dyma ychydig o adborth gan gleifion presennol sydd wedi cwblhau’r cwrs: