Mae nifer yr achosion o Asthma yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y byd gyda 13% o’r holl oedolion yn dweud eu bod yn derbyn triniaeth ar gyfer y clefyd hwn. Yng Nghymru mae tua 4000 o dderbyniadau gydag asthma bob blwyddyn, 30% yn uwch na gweddill y DU.
Mae asthma difrifol yn cyfrif am 7-10% o'r boblogaeth asthmatig ond er hyn maent yn defnyddio 90% o'r adnoddau gofal iechyd sy'n gysylltiedig ag asthma. Gall gwneud diagnosis a rheoli asthma fod yn gymhleth a'r ffordd orau o wneud hyn yw drwy dîm amlddisgyblaethol.
Nod gwasanaeth asthma BIPAB yw darparu asesiad amlddisgyblaethol a rheolaeth o gleifion sy'n oedolion ag asthma trwy ddarparu ystod o wasanaethau gan gynnwys.
Gall rheolaeth asthma amrywio yn ystod beichiogrwydd. Efallai na fydd rhai merched yn profi dim newid neu welliant mewn rheolaeth, ond gall eraill brofi dirywiad yn anffodus. Mae materion pwysig i’w trafod a’u hystyried yn y cyfnodau cyn beichiogi, cyn geni, peri-partum ac ar ôl geni.