Neidio i'r prif gynnwy

Bronchiectasis

Mae bronciectasis yn ymledu a thewychu'r llwybrau anadlu yn barhaol. Nodweddir hyn gan beswch cronig, cynhyrchu gormod o sbwtwm, cytrefu bacteriol, a heintiau acíwt rheolaidd. Gall fod yn gyffredin ledled yr ysgyfaint (gwasgaredig) neu'n fwy lleol (canolbwynt). Caiff ei achosi gan lid cronig y llwybrau anadlu, ac mae'n gysylltiedig â, neu'n cael ei achosi gan, lawer o afiechydon. Gall ddatblygu ar ôl heintiadau ar yr ysgyfaint, yn enwedig yn ystod plentyndod ac  os oes problemau isorweddol, megis diffyg imiwnedd a ffibrosis systig.

 

Cleifion allanol

Gellir cyfeirio rhai cleifion, os yw hynny’n briodol, fel cleifion allanol i’r uned gofal anadlol dydd (RACU) Gellir cyfeirio cleifion a allai fod angen gwrthfiotigau mewnwythiennol arnynt yno hefyd. Bydd yr Uned yn  asesu ac yn rheoli eu gwaethygiadau .

Gall eich meddyg teulu neu'r ganolfan llif gofal gysylltu â RACU.

 

Taflenni Gwybodaeth i Gleifion

Azithromycin