Mae triniaethau broncosgopig diagnostig yn cael eu cynnal yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall.
Ar hyn o bryd cynhelir triniaethau Uwchsain Endobronciol (EBUS) yn wythnosol yn Ysbyty Nevill Hall ar brynhawn dydd Mawrth a gwneir broncoscopïau bob bore Gwener. Gall y ddwy restr gynnwys cleifion sy’n cael eu gweld yn unrhyw le o fewn y bwrdd iechyd. Lle bynnag y bo modd, mae apwyntiad yn cael ei drefnu i gleifion ar y rhestr nesaf sydd ar gael. Cynhelir sganiau CT cyn unrhyw driniaeth broncosgopig ar gyfer amheuaeth o ganser.
Rhoddir taflen wybodaeth broncosgopi (gweler isod) i gleifion sy'n cynnwys adran i gofnodi amser a dyddiad y driniaeth. Yna caiff y rhestr o driniaethau ei chwblhau gan yr ymgynghorwyr anadlol a chysylltir â'r cleifion i gadarnhau dyddiad ac amser ar gyfer y driniaeth os nad yw hyn wedi'i wneud eisoes. Rhoddir ffurflenni caniatâd i gleifion eu llenwi cyn mynychu'r driniaeth.
Rhaid i bob claf sy'n cael tawelydd gael oedolyn cymwys i'w gyrru adref a gofalu amdanynt dros nos. Os nad yw hyn yn bosibl, gellir gwneud trefniadau trwy'r ysgrifenyddion meddygol ar 01873732096 neu 01873 732095 ar gyfer derbyn y claf i’r ysbyty ar ôl y driniaeth.
Ar hyn o bryd cynhelir triniaethau broncosgopi yn wythnosol yn Ysbyty Brenhinol Gwent bob bore dydd Mawrth. Gall y rhestr gynnwys cleifion sy'n cael eu gweld yn unrhyw le o fewn y bwrdd iechyd. Lle bynnag y bo modd, mae apwyntiad yn cael ei drefnu i gleifion ar y rhestr nesaf sydd ar gael. Cynhelir sganiau CT cyn unrhyw driniaeth broncosgopig ar gyfer amheuaeth o ganser.
Rhoddir taflen wybodaeth broncosgopi i gleifion (gweler isod). Bydd aelod o'r tîm Anadlol yn cysylltu â chleifion i gytuno ar ddyddiad ac amser addas. Rhoddir ffurflenni caniatâd i gleifion eu llenwi cyn mynychu'r driniaeth.
Gellir darparu'r daflen gyfarwyddiadau hon ar ryddhau cleifion sy'n cynnwys gwybodaeth am adferiad yn dilyn y driniaeth: