Neidio i'r prif gynnwy

Ffisioleg Anadlol

Cynhelir y clinigau Ffisioleg Anadlol yng Nghlinig y Frest yn Ysbyty Gwynllyw, neu'r Uned Cardio-anadlol, Llawr 1 yn Ysbyty Nevill Hall a Chleifion Allanol, Ysbyty Aneurin Bevan. Sylwch mai dim ond ar safleoedd penodol y gellir cynnal rhai profion.

Swyddogaeth y clinigau hyn yw cynnal profion anadlu i helpu i wneud diagnosis o glefyd yr ysgyfaint.


Darperir y Gwasanaeth:

  • Llun-Gwener yng Nghlinig y Frest Ysbyty Gwynllyw
  • Dydd Mawrth-Dydd Gwener yn uned Cardio-anadlol, Ysbyty Nevill Hall
  • Dydd Llun a phob dydd Mercher yn yr Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Aneurin Bevan.


Anfonir llythyr gwahoddiad atoch yn gofyn i chi gysylltu â ni i wneud apwyntiad. Byddwch yn cael cynnig apwyntiad ar unrhyw safle lle caiff y gwasanaeth ei redeg oni bai y gofynnwyd am brawf penodol a dim ond yn un o'r safleoedd y gwneir y prawf. Byddwch yn derbyn llythyr cadarnhad a neges destun ynghylch eich apwyntiad a thaflen wybodaeth sy'n berthnasol i'ch profion.

Mae triniaethau profi yn cynnwys:

  • Spirometreg FV
  • Trosglwyddo Nwy TLco
  • Cyfaint Ysgyfaint Statig TLC
  • Gwrthdroadwyedd REV
  • Dolen Cyfaint Llif  FV
  • Nwy Gwaed Llabed y Glust (trefnwch yn SWH a NHH yn unig ar hyn o bryd)
  • Cerdded am 6 Munud 6MWT
  • Plethysmograffeg y Corff / Yr Ysgyfaint Bocs Corff Cyfeintiau
  • Mannitol
  • Methacholine Gwneir hyn yn NHH yn unig 
  • Prawf Ymarfer Corff Cynyddol CPET - Gwneir hyn yn NHH yn unig