Canser yr Ysgyfaint yw'r ail ganser mwyaf cyffredin mewn merched (ar ôl canser y fron) ac mewn dynion (ar ôl canser y prostad). Mae ymchwiliadau diagnostig a phenderfyniadau ar reoli yn aml yn gymhleth ac yn gofyn am ddull amlddisgyblaethol.
Nod Gwasanaeth Canser yr Ysgyfaint BIPAB yw sicrhau bod pob claf o fewn y llwybr canser yr ysgyfaint a mesothelioma yn cael gwasanaeth arbenigol cydgysylltiedig, effeithlon ac o ansawdd uchel ar gyfer diagnosis, triniaeth a chefnogaeth.
Mae gan yr MDT swyddogaeth gyfunol o:
Mae'r tîm amlddisgyblaethol yn cyfarfod bob bore dydd Iau dros Teams ac mae'n cynnwys yr arbenigwyr canlynol.
Cynhelir clinigau yn:
Mae cleifion yn cael cynnig yr apwyntiad clinig nesaf sydd ar gael ar unrhyw safle, gan ystyried unrhyw brofion sydd eu hangen a bydd y swyddfa trefnu apwyntiadau canser yr ysgyfaint, yr ysgrifennydd neu'r nyrs glinigol arbenigol yn cysylltu â chleifion dros y ffôn i gadarnhau'r apwyntiad. Os bydd digon o amser, bydd y claf yn cael ei hysbysu trwy'r post hefyd.
Yn y clinig ysgyfaint mynediad cyflym, edrychir ar hanes y claf a chaiff archwiliad llawn ei wneud ar ddiwrnod yr apwyntiad. Bydd hyn yn cynnwys profion gweithrediad yr ysgyfaint. Mae profforma clinig wedi'i gynllunio er mwyn casglu'r holl wybodaeth berthnasol.
Caiff cleifion eu hasesu, adolygir ymchwiliadau, a thrafodir rheolaeth bellach. Mae taflenni gwybodaeth ar gael ynghylch unrhyw driniaeth ddiagnostig y mae'r claf yn ei chael (gweler yr adrannau sy'n ymwneud â thriniaethau). Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael o fewn y bwrdd iechyd os oes angen. Mae pob claf yn cael cynnig taflenni gwybodaeth ysgrifenedig sy'n berthnasol i'w diagnosis. Mater i'w disgresiwn yw a ydynt am dderbyn y wybodaeth hon.
Yn draddodiadol, mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio fel cleifion allanol i Wasanaeth Canser yr Ysgyfaint BIPAB drwy lythyr clinig claf allanol neu lythyr atgyfeirio penodol sydd wedi’i nodi fel achos ganser â amheuir a’i anfon at Feddyg Ymgynghorol sy’n rhan o’r tîm.
Diffyg anadl - Gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol
Tîm Nyrsio Canser yr Ysgyfaint Ysbyty Nevill Hall - Gwybodaeth i Gleifion, Perthnasau a Gofalwyr
Nyrs Glinigol Arbenigol Canser yr Ysgyfaint - Sut gallwn ni eich helpu chi a'ch teulu