Neidio i'r prif gynnwy

Uned Plewrol

Gorchuddion yr ysgyfaint a wal y frest yw plewra. Yr enw ar y leinin allanol sydd ynghlwm wrth wal y frest yw plewra Parietal a'r leinin mewnol sydd ynghlwm wrth yr ysgyfaint yw plewra visceral. Gall clefydau fel haint, malaenedd a chyflyrau eraill effeithio ar y rhan hon o'r ysgyfaint.

Mae'r Uned Plewrol Dydd (PAU) yn cynnig clinigau anadlol arbenigol i gleifion allanol. Mae'r pwyslais ar ddarparu ymyriad plewrol prydlon ac arbenigol, ymchwiliadau plewrol cyflym heb dderbyniadau i'r ysbyty.

Mae hefyd yn gweithredu fel cyfrwng i dderbyn claf yn ddiogel, yn amserol ac yn ddi-dor ar gyfer cleifion sy’n ymgyflwyno gyda symptomau plewrol acíwt fel niwmothoracs, haint plewrol, ac allrediad plewrol malaen (MPE).

Mae PAU yn cynnal sesiynau clinig bedwar diwrnod yr wythnos ac mae'n defnyddio dull un-stop: darparu uwchsain thorasig (TUS) ac ymyriadau plewrol ar yr un pryd. Yn ogystal, mae'r uned yn darparu amgylchedd sy'n ffafriol i ddysgu TUS ac ymarferoldeb perfformio gweithdrefnau plewrol.

Mae'r uned yn darparu cyngor ac yn paratoi cleifion ar gyfer ymyriad plewrol mwy datblygedig fel thoracosgopi.


Ymyriadau plewrol a wneir yn rheolaidd yn PAU:

1) Thorasig (TUS)

2) Allsugno plewrol diagnostig

3) Allsugno plewrol therapiwtig

4) Mewnosodiad draeniau cist rhyngasennol Seldinger (ICD)

5) Gosod, rheoli a thynnu Cathetr Plewrol Preswyl mewn Twnel (TIPC).

6) TIPC ynghyd ag ymyrraeth talc

7) Gosod, rheoli a thynnu awyrell thorasig

8) Sgrinio a pharatoi thoracosgopi

9) Mesur manometreg plewrol fel y bo'n briodol

 

Mae’r uned yn cynnig cyngor i nyrsys ardal, timau gofal sylfaenol ac yn cymryd atgyfeiriadau o ysbytai ar draws BIPAB yn ogystal â gwasanaeth canser Felindre (ar gyfer cleifion yn nalgylch BIPAB)