Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Gofal Anadlol a Phluwrol Dyddiol (RACU a PACU)

Lleolir yr Uned ar Ward B4 y Dwyrain yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae'r uned ar agor 09:00am - 4:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener. (Ddim ar gael ar benwythnosau a gwyliau banc ar hyn o bryd).

Mae'r Uned Dydd Gofal Anadlol (RACU) yn fenter a arweinir gan y Gyfarwyddiaeth Anadlol. Rôl yr uned yw darparu asesiad brys ar yr un diwrnod a rhyddhau cleifion anadlol, gyda mynediad at ddiagnosteg yr un diwrnod ac adolygiadau gan feddygon ymgynghorol.

Enghreifftiau o rai o'r cleifion a welir yn RACU yw cleifion sy'n dioddef o salwch anadlol fel COPD sy’n gwaethygu, asthma sy’n gwaethygu, problemau anadlol sy'n gysylltiedig â Covid a chleifion yr amheuir bod ganddynt Emboledd Ysgyfeiniol (Risg Isel).

Os bydd eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn teimlo bod atgyfeiriad i'r uned yn briodol, gallant gysylltu â'r ganolfan llif a fydd yn cysylltu â'r tîm yn yr uned i gytuno ar gynllun addas.

Mae'r uned yn cynnwys ymgynghorydd, Cydymaith Meddygol, Nyrs Gofrestredig, a Nyrs Gynorthwyol.

Mae'r uned hefyd yn gartref i'n clinig llawdriniaeth plewrol Cleifion Allanol sy'n rhedeg ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener. Cefnogir y clinig naill ai gan Ymgynghorydd Anadlol, Uwch Ymarferydd Nyrsio, Ymgynghorydd Anadlol, a Nyrs Gynorthwyol.

Mae cydlynydd y ward yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.00am – 4.00pm ac mae'n gyfrifol am gyfarfod a chyfarch cleifion, cofnodi presenoldeb a chanlyniadau cleifion ar ran yr uned RACU yn ogystal â threfnu apwyntiadau a diweddaru canlyniadau ar gyfer yr uned plewrol.

 

Rhifau Cyswllt Defnyddiol:

Nyrs â Gofal: 01633 656148 (mewnol 46148)

Cydlynydd Ward 01633 656148 (mewnol 46148)