Mae brechiad ffliw yn cael ei argymell ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl o gymhlethdodau difrifol os ydynt yn cael y ffliw. Ar gyfer oedolion mae hyn yn cynnwys pawb 65 oed a throsodd, menywod beichiog, a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor penodol. Gall y ffliw fod yn salwch difrifol yn y bobl hyn a’r brechlyn sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau.
I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, cliciwch yma: Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)
Eleni bydd y rhan fwyaf o oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn ffliw o ddechrau mis Hydref, a allai fod ychydig yn hwyrach nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn oherwydd bod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn dangos bod amddiffyniad rhag y brechlyn ffliw yn lleihau dros amser mewn oedolion. Felly mae'n well cael y brechlyn yn nes at yr adeg pan fydd y ffliw fel arfer yn cylchredeg.
Ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl o gymhlethdodau difrifol os ydynt yn cael ffliw. Ar gyfer oedolion mae hyn yn cynnwys pawb 65 oed a throsodd, menywod beichiog, a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor penodol. Gall y ffliw fod yn salwch difrifol yn y bobl hyn a’r brechlyn sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau. Pam fod yn rhaid i mi aros tan fis Hydref am fy brechlyn ffliw? Eleni bydd y rhan fwyaf o oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn ffliw o ddechrau mis Hydref, a allai fod ychydig yn hwyrach nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn oherwydd bod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn dangos bod amddiffyniad rhag y brechlyn ffliw yn lleihau dros amser mewn oedolion. Felly mae'n well cael y brechlyn yn nes at yr adeg pan fydd y ffliw fel arfer yn cylchredeg. Pryd ddylai merched beichiog gael eu brechu? Dylai menywod beichiog gael y brechlyn o fis Medi. Mae hyn oherwydd bod yr amddiffyniad rhag y brechlyn yn cael ei drosglwyddo drwy'r brych i'r babi, gan roi amddiffyniad i'r babi am yr ychydig fisoedd cyntaf o fywyd pan fydd yn arbennig o agored i'r ffliw. Felly ni ddylai menywod beichiog oedi rhag cael eu brechu, yn enwedig y rhai sy'n feichiog iawn, gan fod angen diogelu babanod a enir yn ystod tymor y ffliw rhag y ffliw yn ogystal â'r fenyw feichiog ei hun.
Bydd brechu plant sy'n cael cynnig brechlyn ffliw gan y GIG hefyd yn dechrau o fis Medi oherwydd nad yw eu hamddiffyniad rhag y brechlyn yn lleihau mor gyflym ag y mae mewn oedolion.
Mae ffliw fel arfer yn dechrau cylchredeg ym mis Rhagfyr felly mae'n well cael y brechlyn erbyn diwedd mis Tachwedd gan ei fod yn cymryd hyd at 14 diwrnod i weithio. Ond hyd yn oed os yw'n hwyrach na mis Tachwedd, mae'n dal yn werth gofyn a allwch chi gael brechlyn ffliw.
Plant dwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2023) |
Meddygfa (DS, mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed yn cael cynnig y brechlyn yn y feithrinfa) |
Plant ysgolion cynradd ac uwchradd |
Ysgol gynradd ac uwchradd |
Plant rhwng 6 mis a dan 18 oed â chyflwr iechyd hirdymor |
Meddygfa (DS. bydd plant oed ysgol gynradd ac uwchradd yn cael cynnig eu brechlyn ffliw yn yr ysgol) |
Merched beichiog |
Meddygfa, rhai fferyllfeydd cymunedol neu, mewn rhai ardaloedd o Gymru gan eu bydwraig |
Cyflyrau iechyd tymor hir (oedolion) |
Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
Pobl 65 oed neu hŷn |
Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
Gofalwyr di-dâl |
Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol |
Gofalwyr cartref |
Fferylliaeth gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill) |
Staff cartrefi gofal |
Fferylliaeth gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill) |
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
Trwy'r cyflogwr |