Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n feichiog ac eisiau rhoi'r gorau i ysmygu?

Bydd Helpa Fi i Stopio yn eich cefnogi i roi'r gorau i ysmygu yn ystod ac ar ôl eich beichiogrwydd a bydd hefyd yn cefnogi unrhyw un yn eich cartref sy'n smygu i roi'r gorau iddi. 

Gall cynghorwyr ymroddedig eich cefnogi fel rhan o'ch gofal cynenedigol.

Gall eich bydwraig roi mwy o wybodaeth am Helpa Fi i Stopio a fydd yn sicrhau eich bod yn cael mynediad at hyn fel rhan o'ch gofal cynenedigol, neu gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol ar 0800 085 2219, tecstiwch HMQ i 80818 neu e-bostiwch ABB.HMQMaternity@wales.nhs.uk

 

Mae cymorth Mamolaeth Helpa Fi i Stopio yn cynnwys:

  • Cefnogaeth trwy gydol y beichiogrwydd a hyd at 4 wythnos ar ôl genedigaeth
  • Apwyntiadau wyneb yn wyneb mewn clinig cyn geni neu dros y ffôn
  • Cefnogaeth i unrhyw oedolyn arall sy'n ysmygu sy'n byw yn yr un cartref
  • Mynediad i feddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu trwyddedig am hyd at 12 wythnos e.e. clytiau ac un cynnyrch llafar ychwanegol fel gwm neu anadlydd

Ewch i am Ysmygu yn ystod beichiogrwydd :: Iachach Gyda'n Gilydd (cymru.nhs.uk) fwy o wybodaeth.