Gellir cyrchu Helpa Fi i Stopio mewn sawl ffordd:
Os hoffech gyfeirio eich hun at y gwasanaeth, gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219 neu anfon neges destun at HMQ i 80818.
Fel arall, gallwch ofyn am atgyfeiriad gan eich meddyg teulu.
Os hoffech gael cymorth drwy fferyllfa, ewch i'ch fferyllfa leol i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi'n feichiog ac yr hoffech chi neu rywun yn eich cartref gael cymorth i roi'r gorau i ysmygu, gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio neu siarad â'ch bydwraig a all eich cefnogi i gael mynediad at y gwasanaeth.
Os ydych yn glaf mewnol, siaradwch â staff y ward am gael mynediad at wasanaethau Helpa Fi i Stopio yn ystod eich arhosiad.
I ddarganfod mwy am Helpa Fi i Stopio, ewch i Tudalen Gartref - Helpa Fi i Stopio