Mae Bwrdeistref Blaenau Gwent yn ymestyn dros ardal ddaearyddol o 109 km² (42.08 milltir sgwâr). Ei phrif drefi yw Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy a Thredegar.
Mae gan y Fwrdeistref boblogaeth o tua 71,852. Mae’r bobl hynny sydd wedi eu cofrestru yn derbyn gofal allan o'r ysbyty/gofal iechyd cyffredinol a gofal cymdeithasol gan gontractwyr annibynnol, yr awdurdod lleol a'r trydydd sector.
Ym Mlaenau Gwent, mae'r bwlch o 18 mlynedd mewn disgwyliad oes iach rhwng ein cymunedau cyfoethocaf a thlotaf yn cael ei waethygu'n sylweddol oherwydd bod 21% o'n poblogaeth yn byw mewn amddifadedd incwm, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i'r gyfraith gofal gwrthgyfartal gyda hynny’n arwain at nifer uwch o ddinasyddion gydag anghenion iechyd yn defnyddio ein gwasanaethau. Rydym yn cydnabod y goblygiadau ehangach y mae'r pandemig byd-eang wedi'u cael ar y preswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y newidiadau o ran cael mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae ein clystyrau allweddol yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau sy'n lliniaru'r effaith hon a hynny yng nghyd-destun anghenion poblogaeth sy'n newid, asesiad anghenion diwygiedig sy'n rhagweld effaith bellach ar lesiant gwael, cyfraddau gordewdra cynyddol, cynnydd o ran yfed alcohol, diabetes, mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac amddifadedd economaidd pellach. Mae Model Gofal Sylfaenol Cymru yn nodi sut y bydd gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol a chymunedol yn gweithio o fewn y system gyfan i ddarparu gofal yn seiliedig ar ardal benodol.
Mae gan Blaenau Gwent ddau rwydwaith gofal cymdogaeth (NCN) - Dwyrain Blaenau Gwent a Gorllewin Blaenau Gwent.
Mae Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) 2026-2029 NCN Blaenau Gwent ar gael yma.