Neidio i'r prif gynnwy

Sir Fynwy

Yn Sir Fynwy, mae oddeutu 93,000 o bobl yn byw ar draws pum tref allweddol Cas-gwent a Chil-y-coed yn y De, Y Fenni a Threfynwy yn y Gogledd, a Brynbuga sydd yng nghanol Sir Fynwy. Mae'r fwrdeistref yn ffinio â Lloegr i'r Dwyrain, Casnewydd a Thorfaen i'r Gorllewin a Phowys i'r Gogledd. 

Daw pobl i Sir Fynwy i fyw ac i fwynhau ei threftadaeth a’i diwylliant diddorol a'i thirweddau ysblennydd –pethau sy’n ei gwneud yn ardal arbennig. Mae Sir Fynwy yn ymgorfforiad o gefn gwlad – trefi marchnad bach (Y Fenni, Trefynwy, Cil-y-coed, Cas-gwent a Brynbuga) a thapestri cyfoethog o dir amaethyddol sy’n frith o bentrefi.

Mae'r amgylchedd naturiol yn un o brif asedau Sir Fynwy, o'i phwynt uchaf yn Chwarel-y-Fan i'r iseldir arfordirol eang ar Wastadeddau Cil-y-coed.

Mae gan Sir Fynwy ddau rwydwaith gofal cymdogaeth (NCNs):

Gogledd Sir Fynwy

Cefnogir y gogledd gan 7 o feddygfeydd, Ysbyty Nevill Hall a chanolfan gofal cymdeithasol Parc Maerdy yn Y Fenni, ynghyd â Chyfleuster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Monnow Vale yn Nhrefynwy.  Mae gennym nifer o ganolfannau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig wedi'u hymgorffori o fewn y trefi cymunedol.

Mae oddeutu 55,000 o bobl yn byw yma ac mae tua 5,000 o bobl sy’n byw yn Lloegr wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Sir Fynwy oherwydd cyfyngiadau daearyddol.

De Sir Fynwy

Mae Rhwydwaith Gofal Cymdogaeth (NCN) De Sir Fynwy yn cael ei gefnogi gan bum meddyg teulu a dau dîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yng Nghas-gwent a Chil-y-coed. Mae oddeutu 48,600 o bobl yn byw mewn ardal lled-wledig gyda thua 6,500 ohonynt yn byw yn Lloegr, ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Sir Fynwy oherwydd cyfyngiadau daearyddol.

 

Mae modd gweld Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) 2026-2029 NCN Sir Fynwy yma.