Torfaen yw'r mwyaf dwyreiniol o gymoedd trefol de Cymru sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol o 126km2, gyda phoblogaeth o 93,049 (ONS 2018). Ceir tair canolfan drefol: Pont-y-pŵl, Blaenafon, a Chwmbrân.
Ffurfiwyd bwrdeistref Torfaen yn 1974 fel ardal llywodraeth leol Gwent ac, yn 1996 ailsefydlwyd Torfaen fel bwrdeistref sirol sy’n cael ei llywodraethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n brif gyngor. Mae ardal fawr o ran ddeheuol y fwrdeistref sirol o gwmpas Cwmbrân yn drefol. Mae gogledd y fwrdeistref sirol yn wyrddach gydag ardaloedd eang o gefn gwlad, yn enwedig ar y ffordd i Flaenafon.
Cofnodwyd y nifer fwyaf o garafanau teithwyr yn Nhorfaen yn ystod y cyfrif Sipsiwn a Theithwyr blynyddol yn Ionawr 2016, gyda chyfanswm o chwe deg un, sef 41% o gyfanswm Gwent.
Mae gan Dorfaen ddau rwydwaith gofal cymdogaeth (NCN):
Mae NCN Gogledd Torfaen yn gwasanaethu’r 47,764 o bobl sydd wedi eu cofrestru gyda phractis ym Mlaenafon a Phont-y-pŵl. (Ffynhonnell: Maint Rhestr Gofal Sylfaenol 2020). Mae ein hasesiad anghenion lleol yn dweud wrthym fod Trefddyn 1 yn y gogledd ymhlith y 10% o lefydd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Ffynhonnell WIMD 2019).
Mae NCN De Torfaen yn gwasanaethu’r boblogaeth o 48,535 yng Nghwmbrân sydd wedi cofrestru gyda phractis. (Ffynhonnell: Maint Rhestr Gofal Sylfaenol 2020). Mae ein hasesiad anghenion lleol yn dweud wrthym fod Cwmbrân Uchaf a Phontnewydd ymysg y 10% o leoedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (ffynhonnell WIMD 2019).
Mae modd gweld Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) 2026-2029 NCN De Torfaen yma.