Mae Casnewydd yn ddinas aml-ddiwylliannol, gyda'i hawyrgylch unigryw ei hun. Mae 156,447 o bobl yn byw yma ac mae'n ymestyn dros ardal ddaearyddol o 73.5 milltir sgwâr.
Mae ardaloedd yn y Fwrdeistref hon sydd â’r lefelau uchaf o amddifadedd a rhai o’r ardaloedd mwyaf cyfoethog ac mewn rhai achosion, maent yn agos iawn at ei gilydd (o fewn pellter cerdded weithiau).
Mae gan Gasnewydd boblogaeth sy'n heneiddio, a gwelwyd cynnydd o 8.6% yn y bobl dros 65 oed rhwng 2011 a 2015. Mae disgwyl i'r cynnydd hwn barhau, gyda rhagamcan y bydd nifer y bobl yn y categori hwn yn cynyddu i 37,241 erbyn 2039, gyda hynny’n cyfrif am bron i chwarter y boblogaeth.
Mae gan Gasnewydd ddau rwydwaith gofal cymdogaeth (NCN):
Mae poblogaeth Dwyrain Casnewydd oddeutu 78,184. Mae 9 meddygfa yn yr ardal gyda gwahanol lefelau o amddifadedd a chyfoeth. Yn ogystal, mae 7 Deintyddfa, 7 Optometrydd a 15 Fferyllfa Gymunedol yn yr ardal.
Arweinir NCN Gorllewin Casnewydd gan Dr Susan Thomas, sydd hefyd yn gweithio fel Ymarferydd Nyrsio Uwch mewn Ymarfer Cyffredinol. Mae NCN Gorllewin Casnewydd yn cynnwys 7 prif bractis sydd, gyda'i gilydd, yn gwasanaethu poblogaeth gofrestredig o 80,692. Yn ogystal mae 9 optometrydd, 5 deintyddfa a 12 fferyllfa gymunedol wedi'u lleoli yn NCN Gorllewin Casnewydd.
Mae modd gweld Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) 2026-2029 NCN Casnewydd yma.