Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Tymor Canolig Integredig

Roedd Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 a Fframwaith Cynllunio GIG Cymru cysylltiedig yn dynodi dull tymor canolig newydd o gynllunio, gan ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG nodi sut y bydd adnoddau'n cael eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd i:
  • mynd i'r afael â meysydd angen iechyd y boblogaeth a gwella canlyniad iechyd
  • gwella ansawdd gofal
  • sicrhau'r gwerth gorau o adnoddau
Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG wedi datblygu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (IMTP), yn unol â'r Fframwaith. Mae ein Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gael yn adran Dogfennau Allweddol ein gwefan.