Neidio i'r prif gynnwy

Pryderon a chwynion - Gweithio i Wella

Cyflwynwyd y rheoliadau ar gyfer rheoli pryderon yng Nghymru ym mis Ebrill 2011. Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd ymchwilio unwaith, ymchwilio yn dda. Nod Tîm Rhoi Pethau'n Iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw cefnogi'r holl staff a chleifion i reoli pryderon cleifion (cwynion, digwyddiadau a hawliadau diogelwch claf). Un o nodau allweddol y Bwrdd Iechyd yw sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i ddysgu o ddigwyddiadau niweidiol.
 
Mae'r tîm yn cefnogi'r ymchwiliad i bryderon gan ddefnyddio proses gyffredin ac yn hwyluso cynllunio gweithredu i wella gwasanaethau i gleifion. Mae'r tîm bob amser yn hapus i ddarparu cyngor a chefnogaeth yn ystod ymchwilio a datrys pryder.
 
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau Gweithio i Wella. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Jane Rowlands-Mellor
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Gweithio i Wella
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Ffôn: 01633 431674