Mae cyfarfod â phobl, siarad â phobl, a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud, yn bwysig i helpu'r Bwrdd Iechyd i ddeall problemau y mae cymunedau ledled Gwent yn eu profi gyda gwasanaethau iechyd lleol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnal rhaglen ymgysylltu gymunedol gynhwysfawr sy’n sicrhau y gall cymunedau siarad yn uniongyrchol â staff y Bwrdd Iechyd a rhannu eu barn am wasanaethau iechyd.
Mae ein hamserlen ymgysylltu â’r gymuned yn deg yn ddaearyddol ar draws pum ardal awdurdod lleol Blaenau-Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen ac mae’n canolbwyntio ar ardaloedd â nifer uchel o ymwelwyr megis archfarchnadoedd, canolfannau hamdden a digwyddiadau blynyddol fel 'Families Love Newport' a Pharti ym Mharc Pont-y-pŵl; sy’n digwydd ledled Gwent bob blwyddyn. Mae'r tîm yn cyfarfod yn rheolaidd â grwpiau lleol fel hybiau Mam a Phlentyn, Gwau a Sgwrsio, a Hybiau Cynnes. Yn 2022, siaradodd y Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol â dros 4300 o drigolion ar draws 149 o leoliadau.