Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydych chi wedi dweud wrthym?

Mae’r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn ymfalchïo yn y ffordd rydym yn ymgysylltu â chymunedau Gwent, ac rydym yn ymdrechu i sicrhau bod preswylwyr yn cymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd Iechyd. Mae’r tîm nid yn unig yn rhannu gwybodaeth a negeseuon iechyd allweddol, ond maent hefyd yn annog pobl i rannu eu profiadau personol a’u hadborth i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, a bod eu teimladau’n cael eu clywed. Mae hyn yn helpu i siapio gwasanaethau Byrddau Iechyd a sicrhau eu bod mor effeithiol ac effeithlon ag y gallant fod.  

 

Dewch o hyd i rai enghreifftiau o'r hyn y mae preswylwyr wedi'i rannu â ni isod: 

 “Bu’n rhaid i fy merch a minnau aros yn hir i gael ein gweld yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, fodd bynnag, pan gawsom ein gweld roeddem yn falch o gael diagnosis cywir gan y staff anhygoel sy’n gweithio yno.” 

 

 “Mae popeth wedi mynd yn fwy cymhleth” 

 

“Cefais eich e-bost am yr ap Be Minfdul ac yna bu’n rhaid i mi bicio i’r eglwys i gwrdd ag un o grwpiau WI. Fe wnes i ei rannu gyda'r grŵp a gofynnodd un fenyw am y manylion cyn i mi allu eu rhannu hyd yn oed! Roedden nhw wir yn hoffi’r syniad.” 

 

Pam nad yw mwyafrif y bobl sy’n aros am apwyntiadau cleifion allanol yn cael dewis ble i fynd?” 

 

 Profiad cadarnhaol arall yn Ysbyty Neuadd Nevill y bore yma yn yr adran cleifion allanol. Roedd Mr Ramadan a'i dîm yn anhygoel, yn broffesiynol, yn darparu gwybodaeth ac yn rhoi tawelwch meddwl.  Ni all fy ngŵr a minnau ganmol digon ar eich gwasanaeth. Diolch "

 

Does dim cwrteisi ar erchwyn gwely bellach” 

 

“Ymwelais ag Ysbyty Ystrad ddoe am 5.30pm gyda Maer Coed Duon a hoffwn i chi ddiolch am ba mor gymwynasgar oedd y staff yn y stondin ymgynghori ar yr Uned Mân Anafiadau gan fod ganddynt arddangosfa yno gyda fy ystod o gwestiynau. Roedd yn bleser siarad â nhw i gyd gan gynnwys Paul Underwood.” 

 

 “Does bosib bod modd anfon pelydrau-x rhwng safleoedd?”   

 

 “Mae’r Tîm Deintyddol Cymunedol yng Nghlytha yn darparu gwasanaeth a chefnogaeth wych i’r cyfadeilad byw â chymorth. “ 

 

 “Hoffwn drosglwyddo fyniolch diffuant i bawb yn uned y fron newydd yn YYF.  Ymwelais heddiw a cherdded i mewn yn nerfau i gyd ond cefais gysur yn syth bin. Ar ôl gweldmeddyg hyfryd, cael mamogram ac yn ôl i mewn i weld y meddyg ar gyfer fy nghanlyniadau, roeddwn i'n gadael ar ôl dim ond awr a hanner yn gwbl dawel fy meddwl. Mae'r uned yn olau ac mae'r staff i gyd yn gyfeillgar iawnsy'n rhoi cysur i chi. Mae’r GIG yn cael eu beirniadu’n rhu hallt ond mae lle i ganmol, roedd y gofal a gefais heddiw heb ei ailfelly a wnewch chi basio fyniolch diffuantymlaen” 

 

  “Mae yna ddiffyg staff Wroleg ar alwad” 

 

 Os oes gennych unrhyw adborth yr hoffech i’r tîm fod yn ymwybodol ohono, cysylltwch â ni:  

 

Rhif ffôn 01633 431890  

E-bost:abb.engagement@wales.nhs.uk   

Cyfeiriad post: Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ffordd Lodj, Sant Cadog, Caerllion, NP18 3XQ