Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n Dda Gyda'n Gilydd

Mae bwyd yn ffordd anhygoel o ddod â phobl at ei gilydd.

Nid oes rhaid i goginio a bwyta bwyd fod yn faich – yn lle hynny, dylai fod yn brofiad pleserus, yn enwedig wrth ei rannu ag eraill.

Dyma rai syniadau syml ar gyfer gwneud bwyta’n iach yn weithgaredd cymdeithasol:

  • Rhowch gynnig ar rysáit newydd gyda'ch anwyliaid - gofynnwch i'r plant goginio i ddysgu sgiliau paratoi bwyd gwerthfawr iddynt.
  • Ymunwch â grŵp cymunedol bwyd lleol trwy eich rhwydwaith IWN lleol. Gwnewch ffrindiau newydd a rhowch gynnig ar fwydydd newydd ar yr un pryd!
  • Dal i fyny gyda hen ffrind? Coginiwch gartref a rhannwch bryd o fwyd gyda'ch gilydd.
  • Dewiswch ddiwrnod bob wythnos i roi cynnig ar fwyd neu saig newydd gyda'ch teulu.
  • Rhowch gynnig ar ychydig o wirfoddoli mewn banc bwyd lleol neu gegin gymunedol. Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd lleol sydd ar gael trwy eich IWN agosaf.

Gall ein Rhwydwaith Lles Integredig (IWN) eich cyfeirio at lawer o grwpiau, gweithgareddau a digwyddiadau lleol yn eich ardal chi. Maent yma i bawb ledled Gwent - gan helpu i'ch cysylltu â'r hyn sy'n digwydd ar draws eich cymuned leol.

Ewch i'n tudalen IWN i gael mynediad i'ch map lleol rhad ac am ddim - a darganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.