Mae’r Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid yn dîm amlddisgyblaethol gwobrwyol. Ym mis Ionawr 2021, cafodd y tîm statws parhaol er mwyn iddo allu datblygu, ymwreiddio a gwerthuso rolau Mentoriaid Cymheiriaid yn barhaus oddi mewn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Er balchder i’r tîm, ym mis Medi 2020 enillodd Wobr APT am feithrin iechyd meddwl da yn y gweithle, ac yn fwy diweddar ychwanegodd y tîm lwyddiant anhygoel arall at y rhestr, sef ennill y Wobr Iechyd Meddwl yng Ngwobrau Iechyd a Gofal De Cymru 2022.
Y Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid yw’r tîm cyntaf o’i fath yng Nghymru – tîm sy’n ymgorffori profiad bywyd ac arbenigedd clinigol.
Mae’r tîm yn cynnwys:
Caiff aelodau’r Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid eu cyflogi er mwyn darparu trefniadau llywodraethu arloesol a diogel i fentoriaid cymheiriaid ledled y Bwrdd Iechyd a chynnig cymorth, proses ymgynghori a hyfforddiant i bob mentor a thîm perthnasol drwy gydol y camau recriwtio, cyflogi, datblygu a gwerthuso. Hefyd, mae’r tîm datblygu’n cynnig proses ymgynghori i dimau rhanbarthol sydd, efallai, yn ystyried datblygu’r rôl oddi mewn i’w gwasanaeth yn y dyfodol.
Y Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid
Arweinydd Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid |
Dr Jessica Woolley |
Arweinydd Tîm, Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid |
Jen Sadler |
Gweithiwr Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid |
Hev James |
Gweithiwr Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid |
Becky James |