Neidio i'r prif gynnwy

Symud Mwy i Bawb

Gall symud mwy ymddangos yn frawychus os ydych yn newydd i wneud ymarfer corff, yn gwella o anaf, yn nerfus ynghylch dechrau arni, neu'n byw gydag anabledd meddyliol neu gorfforol.

Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn teimlo’n hyderus, yn alluog ac yn llawn cymhelliant i fod yn egnïol mewn ffordd sy’n gweithio i ni’n unigol ac sy’n bleserus. Bydd lefelau ac amlder gweithgaredd corfforol yn amrywio o berson i berson, ac mae hyn yn iawn!

Mae gan Chwaraeon Cymru weledigaeth i bawb yng Nghymru fod yn llythrennog yn gorfforol.

Felly, beth yw llythrennedd corfforol? Mae Llythrennedd Corfforol yn golygu meddu ar y sgiliau corfforol, yr hyder, y cymhelliant, yn ogystal â'r wybodaeth i wneud gweithgaredd neu chwaraeon. Gyda chymysgedd o’r holl elfennau hyn rydych yn fwy tebygol o deimlo’n hapus, yn iach ac yn hyderus wrth ddilyn chwaraeon ac ymarfer corff yr ydych yn eu mwynhau.

I ddysgu mwy am Lythrennedd Corfforol a sut y gallwch chi feithrin sgiliau llythrennedd corfforol – ewch i Chwaraeon Cymru - Y sgiliau ar gyfer chwaraeon. | Chwaraeon Cymru .