Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer Corff ar Gyllideb

Mae yna lawer o ffyrdd o gynyddu eich lefelau symud sydd naill ai'n rhad ac am ddim neu'n gost isel iawn. Nid oes angen i chi gael offer arbenigol neu ddrud i symud.

Mae cerdded er lles iechyd yn ffordd wych o ychwanegu mwy o symudiad i'ch trefn ddyddiol. Mae cerdded yn syml, am ddim ac yn un o'r ffyrdd hawsaf o fod yn fwy actif, colli pwysau a dod yn iachach.

Weithiau yn cael ei anwybyddu fel math o ymarfer corff, gall cerdded yn gyflym eich helpu i adeiladu stamina, gwella eich ffitrwydd a gwneud eich calon yn iachach.

Dysgwch fwy am Gerdded er Lles Iechyd - GIG (www.nhs.uk)

Chwilio am weithgareddau corfforol eraill rhad ac am ddim i roi cynnig arnynt?

Rhowch gynnig ar y gweithgareddau hyn:

  • Ewch am dro mewn parc lleol neu fan gwyrdd
  • Rhowch gynnig ar ymarfer corff gartref gan ddefnyddio offer syml a geir gartref yn lle pwysau, fel potel ddŵr neu hyd yn oed dun o ffa pob
  • Cerdded i fyny ac i lawr y grisiau
  • Ewch am rediad gyda ffrind i ddal i fyny
  • Cerddwch i'r siopau lleol i godi nwyddau

Darllenwch fwy am ffyrdd rhad ac am ddim o fod yn actif trwy wefan We are Undefeatable .

Yn ogystal, mae gan Chwaraeon Cymru nifer o weithgareddau haf rhad ac am ddim y gallwch roi cynnig arnynt i gadw'n heini: Pethau am ddim i'w gwneud i gadw'n heini yr haf hwn | Chwaraeon Cymru