Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio ochr yn ochr â llawer o sefydliadau er mwyn sicrhau y gellir cynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd mwy priodol, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion a dewisiadau pobl leol. Cefnogir gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gan sefydliadau trydydd parti a lleol gan gynnwys: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), Cynghrair Gwirfoddoli Torfaen (TVA), Heddlu Gwent gan gynnwys Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Chynghorau Awdurdodau Lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen) ac yn fwy diweddar y Rhwydwaith Rhieni ym Mwrdeistref Caerffili.
Cynrychiolir y Bwrdd Iechyd ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Phanel Dinasyddion Gwent.
Mae’r tîm Ymgysylltu wedi gweithio mewn partneriaeth yn flaenorol ac wedi mynychu:
> Sesiynau Siarad â Ni Cymunedol Awdurdodau Lleol, Digwyddiadau Mannau Cynnes a digwyddiadau Costau Byw;
>Digwyddiadau Cyfadeiladau Preswylwyr Cymdeithasau Tai;
>Digwyddiadau Iechyd a Lles a Ffeiriau'r Glas ar Gampysau Coleg Gwent; a
> Nosweithiau Rhieni Ysgol, boreau coffi a digwyddiadau Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon