Er mwyn gwerthuso prosiect mentoriaid cymheiriaid 2020 Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cydgynhyrchwyd strategaeth werthuso a chyflwynir y canfyddiadau isod:
Dulliau Mesur Clinigol
Er mwyn mesur adferiad goddrychol a llesiant, defnyddiwyd y Dull Mesur Adferiad ac Ansawdd Bywyd (ReQoL) a Graddfa Llesiant Meddwl Warwick-Caeredin (WEMWBS). Ar sail y data a gasglwyd, mae’r sgoriau’n dangos gwelliant dibynadwy; soniodd defnyddwyr y gwasanaeth am gynnydd o 43% mewn teimladau adferiad goddrychol ynghyd â chynnydd o 32% mewn teimladau llesiant; a soniodd y Mentoriaid Cymheiriaid am gynnydd o 33% mewn teimladau adferiad goddrychol ynghyd â chynnydd o 22% mewn teimladau llesiant.
O ran llesiant, mae’r newidiadau hyn yn glinigol arwyddocaol. Gwelir bod sgoriau cymedrig y Mentoriaid Cymheiriaid wedi codi i fod ymhlith 15% uchaf y boblogaeth gyffredinol ac mae sgoriau cymedrig Defnyddwyr y Gwasanaeth wedi codi uwchlaw’r torbwynt ar gyfer 15% isaf y boblogaeth gyffredinol. Nid yw arwyddocâd ystadegol y newidiadau hyn wedi’i bennu eto.
Ffigur 2: Sgoriau cymedrig ar gyfer Defnyddwyr y Gwasanaeth a Mentoriaid Cymheiriaid.
Data Ansoddol
Casglwyd data ansoddol trwy gyfrwng cyfweliadau lled-strwythuredig gyda staff, mentoriaid cymheiriaid a defnyddwyr y gwasanaeth. Cawsant eu trawsgrifio a’u dadansoddi trwy ddefnyddio dadansoddiad thematig:
‘Dw i ddim yn meddwl y buaswn i yma heb yr ymyriad. Rydw i’n ddyledus am fy mywyd iddyn nhw’ – Un o ddefnyddwyr y gwasanaeth |
‘Mae wedi trawsnewid fy mywyd, oherwydd ers imi gael fy niagnosis dw i wedi dod o hyd i swydd sydd wrth fy modd, mae gen i well dealltwriaeth o bethau, dw i’n teimlo’n fwy hyderus ynof fy hun, bod yna bethau y galla’ i eu gwneud i ’ngwella fy hun. Dw i’n teimlo bod gen i bwrpas nawr…’ Mentor Cymheiriaid |
‘…mae’n dangos y cryfderau a’r sgiliau sydd gan gynifer o bobl… Yn amlwg, mae gan bobl heriau unigryw hefyd, a dw i’n credu bod cael mentor cymheiriaid yn y tîm yn ffordd o ddangos hyn, bod yna rywun yma sy’n cael anawsterau mawr gyda rhai pethau… ond, o ddifrif, edrychwch ar y cryfderau a’r sgiliau sydd gennych chi (cryfderau a sgiliau nad ydyn nhw’n perthyn i neb arall), mae hyn yn dangos pa mor werthfawr ydych chi fel unigolyn yn y tîm, ac adlewyrchu’r ideoleg honno gyda phobl eraill sy’n defnyddio’r gwasanaeth…’ Aelod o staff |
Beth a ddysgwyd gennym?
Mae galluogi rhywun i ddarganfod ei wir hunan yn gallu bod yn drawsnewidiol. Ond fe wnaethom ddysgu bod pawb yn profi newid mewn ffordd wahanol. Dysgwyd bod angen cefnogi’r broses hon yn fwy effeithiol e.e. sicrhau amser ar gyfer meithrin diwylliant arloesi.
Y pethau a ddysgwyd yn sgil Prosiect Cymheiriaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Beth fyddwn yn ei wneud nesaf?
Mae Mentoriaid Cymheiriaid i’w cael ym 56% o dimau Iechyd Meddwl Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. O gofio’r angen taer am weithlu cynaliadwy wrth i’r galw am ofal iechyd gynyddu, ein nod yw ymwreiddio Mentoriaid Cymheiriaid ym mhob gwasanaeth. Ein gobaith yw y bydd pawb a fydd yn defnyddio gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd, rhyw ddydd, yn cael yr opsiwn i weithio gyda Mentor Cymheiriaid.