Os ydych chi'n poeni am eich pwysau a'ch iechyd - rydyn ni yma i helpu. Rydym yn deall y gall cyflawni a chynnal pwysau iach fod yn heriol i lawer o bobl, ac mae taith pwysau pob person yn wahanol.
Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth o'r lleol i'r cenedlaethol y gallwch gael mynediad iddynt, yn rhad ac am ddim.
Ddim yn gwybod ble i ddechrau?
Gall gwybod ble i ddechrau wrth geisio cyflawni neu gynnal pwysau iach fod yn her weithiau.
I ddysgu mwy am ddeall pwysau, ewch i Deall pwysau - Pwysau Iach Iach Chi .
Pan fyddwch chi'n barod, defnyddiwch yr offeryn dod o hyd i'ch taith ar-lein i gychwyn eich taith pwysau iach.
Dysgwch fwy am y gwahanol deithiau sydd ar gael wrth gychwyn ar eich taith pwysau iach.
Cyfrifiannell BMI
Er mwyn cymryd rhan yn y rhan fwyaf o raglenni neu wasanaethau, bydd angen i chi wybod eich mynegai màs y corff (BMI). Os nad ydych chi'n gwybod eich BMI ar hyn o bryd, gallwch chi ei gyfrifo'n hawdd gan ddefnyddio'r offeryn ar-lein hwn.
GIG 111 Cymru - Byw a Theimlo'n Iach : Cyfrifiannell BMI
Symud mwy
Gall ychwanegu rhywfaint o ymarfer corff at wythnos hefyd eich helpu i gael pwysau iachach. Gallwch ddarllen am rai o’r awgrymiadau a chyngor ar yr adran Symud Mwy yn ein Hyb.
Grŵp rhedeg cymdeithasol yw Rhedeg Cymru , sydd ar gael ledled Cymru. Mae amrywiaeth o raglenni ar gael i weddu i'ch anghenion unigol ac mae'n agored i'r rhai sy'n dymuno cerdded, loncian a rhedeg. I ddod o hyd i'ch grŵp lleol, defnyddiwch y ddolen ganlynol Dod o Hyd i Grŵp - Rhedeg Cymru (irun.wales)
Parkrun , sef digwyddiad rhedeg 5km a gynhelir bob dydd Sadwrn am 9am ar draws cannoedd o leoliadau ledled y DU. Gallwch ddod o hyd i ddigwyddiad Parkrun lleol yn eich ardal chi yma .
Ewch i'r adran Symud Mwy Gyda'n Gilydd ar gyfer grwpiau cymdeithasol eraill ledled Gwent.
Atal a Rheoli Cyflwr Cronig
Gall cynnal pwysau iach eich atal rhag datblygu rhai cyflyrau cronig fel Diabetes Math 2 neu glefydau cardiofasgwlaidd (fel clefyd rhydwelïau coronaidd). Os ydych wedi cael diagnosis o gyflwr cronig, mae cynnal pwysau iach hefyd yn allweddol i reoli eich cyflwr.
Er bod cynnal pwysau iach yn allweddol, mae deall y ffactorau risg posibl eraill yr un mor bwysig ar gyfer bod yn ymwybodol o arwyddion neu symptomau cyflwr cronig cyn iddo ddatblygu a rheoli eich cyflwr(au) cronig ar ôl diagnosis. Rhai o’r ffactorau risg hyn yw:
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar rai o'r prif gyflyrau cronig isod, yn ogystal â manylion am brif fanteision cynnal pwysau iach tra'n byw gyda'r cyflwr hwn a dolenni i gymorth a chyngor pellach. Ymgynghorwch bob amser â'ch meddyg teulu neu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am gyngor ac arweiniad personol.