Gellir dod o hyd i Bolisi Iechyd a Diogelwch y Bwrdd Iechyd yn rhan Polisïau a Gweithdrefnau ein gwefan gan ddilyn y ddolen ar gyfer Polisïau Corfforaethol.
Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud o fewn GIG Cymru i weithredu argymhellion ac egwyddorion yr adolygiad o Wybodaeth Adnabod Cleifion a gyhoeddwyd ym 1997 gan bwyllgor dan gadeiryddiaeth y Fonesig Fiona Caldicott.
Mae Caldicott yn elfen allweddol o'r agenda Llywodraethu Gwybodaeth yng Nghymru, gan ddarparu set o argymhellion ac egwyddorion i sefydliadau sy'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol i helpu i sicrhau bod gwybodaeth adnabyddadwy gan bobl (gan gynnwys gwybodaeth glaf, staff a defnyddwyr gwasanaeth) yn cael ei diogelu'n ddigonol. Mae cwblhau asesiad Caldicott (C-PIP) yn darparu offeryn cynhwysfawr i Lywodraethu Gwybodaeth ac Arweinwyr Caldicott i dynnu sylw at feysydd lle mae angen gwelliannau, a meincnod ar gyfer gwerthuso cynnydd.
Fodd bynnag, er 1997 bu newidiadau sylweddol yn y fframwaith cyfreithiol a'r codau ymarfer sy'n rheoli mynediad at wybodaeth adnabyddadwy cleifion a'i defnyddio. Mae mwy o wybodaeth am yr adolygiad a'r cod ymarfer ar gael trwy'r dolenni canlynol: -
Mae adroddiad annibynnol ar Adolygiad Caldicot a ysgrifennwyd ym mis Mawrth 2013 - Llywodraethu Gwybodaeth yn y System Gofal Iechyd - Gwybodaeth i'w Rhannu neu i beidio â Rhannu bellach ar gael i'w hadolygu.