Mae bod yn actif gyda ffrindiau neu deulu yn gyfle gwych i wella ein hiechyd trwy ffitrwydd ar yr un pryd â chymdeithasu. Mae ymarfer corff yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, rhoi cynnig ar hobïau newydd ac archwilio gwahanol leoedd.
Felly sut gallwn ni symud mwy gydag eraill?
Chwaraeon tîm ac ymarfer cymdeithasol
Nid yw rhoi cynnig ar gamp neu weithgaredd newydd yn wych i'n cyrff a'n meddyliau yn unig; gall fod yn wych i'n bywyd cymdeithasol hefyd. Mae clybiau chwaraeon lleol a dosbarthiadau ymarfer corff neu weithgaredd yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.
Chwaraeon tîm neu weithgareddau grŵp efallai yr hoffech roi cynnig arnynt yw:
Mae hyd yn oed gweithgareddau y gellir eu cwblhau ar eu pen eu hunain, fel rhedeg, beicio, neu gerdded yn aml yn cynnwys clybiau lleol a all fod yn rhad ac am ddim i ymuno â nhw. Edrychwch ar eich tudalen rhwydwaith lles integredig lleol (IWN) i ddarganfod y clybiau chwaraeon, dosbarthiadau neu grwpiau ymarfer corff rhad ac am ddim yn eich ardal leol.
Yn chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol i roi cynnig arno ac angen ychydig o ysbrydoliaeth? Darllenwch erthygl Chwaraeon Cymru ar 10 camp anarferol y gallwch eu gwneud yng Nghymru | Chwaraeon Cymru.