Bu bron i ddyn ffit ac iach yn ei 40au cynnar, heb unrhyw gyflyrau iechyd isorweddol, golli ei fywyd ar ôl datblygu haint prin ac ymosodol a ddechreuodd gyda'r hyn a oedd yn ymddangos fel crafiad bach ar ei benelin.
Enwyd Meddygfa Bryngwyn yng Nghasnewydd yn Feddygfa y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymunedol De Cymru 2025, a gynhaliwyd yn Rodney Parade ddydd Iau 23 Hydref 2025.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion am Penodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn adolygu'r trefniadau hirdymor ar gyfer gwasanaethau adsefydlu strôc, a gafodd eu canoli ar un safle ysbyty dros dro yn 2023. Rydym yn lansio cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd dros ddeuddeg wythnos er mwyn casglu barn pobl ar y ddarpariaeth hirdymor orau ar gyfer gwasanaethau adsefydlu strôc yng Ngwent.
Mae’n Ddiwrnod Wear It Pink! Heddiw, mae timau ar draws y Bwrdd Iechyd yn gwisgo pinc wrth gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.
Diolch i bawb sydd wedi dilyn ein mesurau atal haint yn ystod yr wythnosau diwethaf ers i ni gyflwyno masgiau a rhagofalon eraill, rydym yn croesawu’r gostyngiad yn y nifer o achosion o salwch y gaeaf yn ein hysbytai.
Mae'r data gwyliadwriaeth diweddaraf, gan gynnwys data gan feddygon teulu, profion mewn ysbytai ac achosion wedi'u cadarnhau mewn gwahanol leoliadau, yn dangos bod y ffliw ar gynnydd a bod tymor y ffliw wedi dechrau'n gynharach nag arfer.
Mae partneriaeth twymgalon rhwng Growing Space a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) yn trawsnewid bywydau trwy’r Prosiect Sgiliau Galwedigaethol, Cart Coffi, menter unigryw sy'n cefnogi unigolion ar eu taith adferiad iechyd meddwl, yn Ysbyty Sant Cadog.
Rydym yn falch iawn o rannu bod Rachel Cronin, Technegydd Fferyllol yn Lolfa Drosglwyddo Ysbyty Athrofaol y Faenor, wedi cael ei henwi yn Dechnegydd Fferyllol y Flwyddyn yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru 2025, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.
Mae astudiaeth ymchwil arloesol ledled y DU sy'n cyfuno biomarcwyr gwaed â phrofion genetig a deallusrwydd artiffisial i gyflymu diagnosis o ddementia a lleihau amseroedd aros i gael ei lansio yng Nghymru yr wythnos hon.
Dim ond wythnos i ffwrdd yw Gweminar Ewch i Nyrsio Gyrfaoedd GIG Cymru (21 Hydref, 4:00pm – 5:30pm).
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch o gyhoeddi bod Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall wedi agor yn swyddogol, cyfleuster o'r radd flaenaf sydd wedi’i gynllunio i wella gofal canser ar draws De Ddwyrain Cymru.
Oherwydd cynnydd mewn salwch gaeaf ar draws ein safleoedd, mae'n ofynnol i bob aelod o staff, ymwelydd a chleifion wisgo masgiau wyneb sy'n atal hylifau wrth fynd i mewn i'n safleoedd ysbytai, wardiau, Adran Achosion Brys a phob lleoliad clinigol, gan gynnwys ein Hunedau Anafiadau Bach (MIUs). Mae hyn yn weithredol ar unwaith.
Diwrnod Shwmae Hapus! Heddiw, 15fed Hydref 2025, rydym yn dathlu Diwrnod Shwmae, sy’n annog pawb i roi cynnig ar y Gymraeg, waeth beth fo’u gallu.
Lle diogel ar gyfer cefnogaeth a chysylltiad.
Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth am Golli Babanod ac rydym am eich gwneud yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i chi.
A wyddoch chi fod yr Offeryn Hygyrchedd ReciteMe ar gael i'w ddefnyddio ar draws ein gwefan?
Mae uned beilot newydd a gynlluniwyd i wella profiad cleifion a chefnogi rhyddhau diogel ac amserol o'r ysbyty wedi croesawu ei chlaf cyntaf yn Ysbyty Prifysgol Grange.