Neidio i'r prif gynnwy

Gosod Nodau

Mae gosod nodau yn arf hawdd a hygyrch sydd ar gael i bob un ohonom a all helpu i osod a chyflawni amcanion ymarfer corff a gweithgaredd corfforol.

Gosod nodau SMART

Mae gosod nodau SMART yn ffordd hawdd o greu amcanion personol sy'n ymwneud ag iechyd a ffitrwydd.

Mae nodau SMART yn cyfeirio at nodau sydd yn:

  • Benodol
  • Mesuradwy
  • Cyraeddadwy
  • Realistig
  • Amser-gyfyngedig

Er enghraifft, gallai nod SMART gwmpasu:

  • Cyrraedd 5000 o gamau y dydd trwy gerdded yn hamddenol bob dydd am wythnos.
  • Rhoi cynnig ar 1 gamp newydd o fewn y mis nesaf.
  • Sgorio gôl yn ystod y gêm bêl-droed nesaf gyda'ch clwb pêl-droed cymdeithasol lleol.
  • Rhedeg am 15 munud heb stopio erbyn diwedd y flwyddyn.

Sut ydych chi'n gosod nodau SMART?

Rydym wedi cynhyrchu Llyfryn Canllaw Byw'n Iach Byw'n Hirach Gwent, gyda gwybodaeth am osod nodau SMART.

Yn ogystal, efallai y bydd rhai unigolion yn defnyddio ymarfer corff fel arf i'w helpu i golli pwysau yn ogystal â dilyn patrwm bwyta'n iach, a allai elwa o osod nodau SMART i'w helpu i olrhain a monitro eu cynnydd.

Os ydych chi'n poeni am bwysau eich corff ac yn dymuno siarad â'n gwasanaethau rheoli pwysau, ewch i'n tudalen Cael Help gyda'ch Pwysau i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael.

Dysgwch fwy o wybodaeth, gan gynnwys awgrymiadau ar osod a chyflawni eich nodau yn: Gosod eich nodau - Pwysau Iach Byw'n Iach