Neidio i'r prif gynnwy

Archebu Batris a Thiwbiau Cymorth Clyw

Mae batris cymorth clyw fel arfer yn para rhwng 7 a 10 diwrnod. Wrth dynnu batri newydd o'r deunydd pacio, dylech aros 2 funud cyn ei roi yn eich teclyn clywed.

Os na allwch gael batris newydd o'ch practis meddygol, gallwn eu postio os byddwch yn cysylltu â ni neu'n llenwi'r ffurflen isod.

Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i gleifion Awdioleg o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn unig.