Mae’r clinig asesu cyn llawdriniaeth yn glinig a arweinir gan nyrsys lle byddwn yn penderfynu a ydych yn ddigon ffit yn gorfforol i gael llawdriniaeth ac anesthetig.
Mae pob un o'r nyrsys y byddwch yn eu gweld yn y clinig yn ymarferwyr nyrsio cymwysedig profiadol. Fodd bynnag, os oes gennych broblemau meddygol mwy cymhleth efallai y cewch eich gweld mewn clinig anesthetig a arweinir gan ymgynghorydd.
Gofynnir cwestiynau i chi am eich iechyd, eich hanes meddygol, ac amgylchiadau'r cartref.
Byddwch yn cael gwybodaeth glir am:
Drwy baratoi ar gyfer llawdriniaeth, gyda chymorth gan eich tîm gofal iechyd, gallwch leihau'r risg o gymhlethdodau.
Mae cleifion mwy ffit, sy'n gallu gwella eu hiechyd a lefelau gweithgaredd, yn gwella'n gyflymach ar ôl llawdriniaeth.
Mae nifer o newidiadau y gallwch eu gwneud eich hun nawr a all wella eich iechyd cyn eich llawdriniaeth a thu hwnt.
Ystyriwch faint rydych chi'n ysmygu, faint rydych chi'n ei yfed, eich diet, eich pwysau a faint rydych chi'n gwneud ymarfer corff. Gall newidiadau ffordd o fyw wneud gwahaniaeth mawr i'ch adferiad a'ch iechyd yn y dyfodol.
Bydd yr ystod ganlynol o wefannau a thaflenni yn rhoi gwybodaeth bellach i chi am rai gweithdrefnau cyn llawdriniaeth, a chyngor ar gynyddu eich gweithgaredd corfforol a rhoi'r gorau i ysmygu .