Neidio i'r prif gynnwy

Cludiant Cleifion



Os oes rhaid i chi ymweld ag unrhyw un o'n hysbytai ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol neu i gael triniaeth, fel arfer disgwylir i chi drefnu eich cludiant eich hun - boed hynny'n gyrru, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ofyn am help gan deulu a ffrindiau.

Pan nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwch yn gymwys i ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol neu gael cymorth gyda chostau teithio.

I weld a ydych yn gymwys, defnyddiwch y gwiriwr ar-lein hwn .