Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Dwysáu Triniaeth

Gwneud y penderfyniadau iawn pan fyddwch chi'n sâl yn yr ysbyty. Canllaw i bobl sy'n 18 oed ac yn hŷn sy'n derbyn gofal iechyd, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae’r tîm gofal iechyd yn defnyddio ffurflen i gofnodi cynllun gofal unigol i’w ddefnyddio os yw unigolyn yn mynd yn sâl iawn, ei gyflwr yn dirywio, neu os oes argyfwng yn ei gyflwr. Enw'r ffurflen hon yw Cynllun Dwysáu Triniaeth (a elwir yn Treatment Escalation Plan neu TEP yn Saesneg). Mae'r Cynllun Dwysáu Triniaeth yn canolbwyntio ar ba driniaethau a gofal a allai fod o'r budd mwyaf i'r unigolyn, a'r rhai na fyddant efallai, mor ddefnyddiol. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio i roi arweiniad i’r tîm gofal iechyd sy'n gofalu amdanoch chi tra byddwch chi yn yr ysbyty.