Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Diabetes Oedolion

 
Croeso i Wasanaeth Diabetes Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cysylltwch â Ni

Gellir gadael negeseuon llais Nyrsys Diabetes Arbenigol rhwng dydd Llun a dydd Gwener 8.30 – 4.30pm

Ysbyty Brenhinol Gwent
01633 234271

Nevill Hall
01873 732049

Ysbyty Ystrad Fawr
01443 802231

Nyrsys Diabetes Arbenigol Gofal Sylfaenol
01495 768676


Gobeithiwn y bydd y dudalen we hon yn ddefnyddiol i chi a'i bod yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth i'ch cefnogi chi neu rywun rydych yn ei adnabod i reoli diabetes.

Mae'r tîm diabetes integredig yn darparu gofal arbenigol, addysg a chymorth i bobl yng Ngwent a De Powys.

Ein nod yw gweithio gyda chi a’ch teulu/gofalwyr, i’ch cefnogi ym mhopeth a wnewch, boed yn goleg, prifysgol, cyflogaeth, neu ddigwyddiadau bywyd eraill fel beichiogrwydd, salwch neu deithio drwy roi hyder i chi yn eich gallu i reoli lefalau eich glwcos yflawni iechyd a lles.

Mae'r tîm diabetes yn gweithio gyda'ch Meddyg Teulu ac yn yr ysbyty felly lle bynnag y byddwch yn derbyn eich gofal diabetes ac adolygiadau, ein cenhadaeth yw helpu i'ch cadw'n iach trwy fod yn ffynhonnell o wybodaeth arbenigol i chi ac i weithwyr proffesiynol eraill a allai fod angen cymorth i gofalu amdanoch a bod yno i'ch helpu os byddwych yn sâl.