Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu gwasanaethau Llawfeddygaeth Gyffredinol i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol ac mae’n rhan o’r Is-adran Gofal wedi’i Drefnu.
Mae ein gwasanaethau wedi'u lleoli mewn tri phrif safle, sef Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr. Mae gennym hefyd glinigau allgymorth sy'n gwasanaethu ein cymuned yn Ysbyty'r Sir, Ysbyty Aneurin Bevan ac Ysbyty Cymunedol Cas-gwent. Rheolir ein gwasanaeth trwy'r Gyfarwyddiaeth Llawfeddygaeth Gyffredinol a arweinir gan Gyfarwyddwr Clinigol a gefnogir gan Uwch Dîm Rheoli Cyfarwyddiaeth.
Mae Llawfeddygaeth Gyffredinol yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cleifion mewnol, allanol a brys. Mae gwasanaethau Llawfeddygaeth Gyffredinol yn datblygu'n barhaus, gyda thriniaethau llai yn cael eu cyflawni yn yr adran cleifion allanol a llawer o lawdriniaethau'n cael eu cyflawni fel achosion dydd. Mae gan ymarferwyr nyrsio rolau allweddol, gan weithio'n agos gyda'r ymgynghorwyr.
Mae gan Lawfeddygaeth Gyffredinol 4 is-arbenigedd. Y rhain yw'r Gastroberfeddol Is (LGI), y Gastroberfeddol Uchaf (UGI), Fasgwlaidd a'r Fron.
Mae pob un o'n his-arbenigeddau yn darparu gwasanaeth penodol i bob claf a atgyfeirir i mewn, boed gan eu meddyg teulu, clinigwyr eraill neu ffynonellau allanol eraill.
Cefnogir y Gyfarwyddiaeth hefyd gan Ymarferwyr Nyrsio Uwch ac Arbenigol ac arbenigwyr Nyrsio Clinigol.