Rydym yn cychwyn ar sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal mewn amgylchedd glân ac yn lleihau'r risg o heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cymryd diogelwch ein cleifion o ddifrif. Mae hynny'n golygu gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r risg y bydd unrhyw un yn cael haint tra byddant yn ein gofal. Mae atal heintiau yn cael ei ystyried yn fusnes pawb, ac mae'r Bwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth y GIG wedi ymrwymo i gynorthwyo staff i atal heintiau.
Mae'r rhan fwyaf o gleifion sy'n cael llawdriniaeth yn gwella'n dda. Fodd bynnag, weithiau bydd cleifion yn cael haint. Mae haint clwyf llawfeddygol yn digwydd pan fydd germau o'r croen neu'r amgylchedd yn mynd i mewn i'r toriad y mae'r llawfeddyg yn ei wneud trwy'r croen er mwyn cyflawni'r llawdriniaeth. Gall haint clwyf llawfeddygol ddatblygu ar unrhyw adeg o ddau i dri diwrnod ar ôl llawdriniaeth nes bod y clwyf wedi gwella (fel arfer dwy i dair wythnos ar ôl y llawdriniaeth). Yn llai aml, a gall haint ddigwydd sawl mis ar ôl llawdriniaeth. Gall heintiau ar ôl llawdriniaeth arwain at broblemau eraill, fel arhosiad hirach yn yr ysbyty.