Wedi'i leoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent, mae'r tîm yn darparu gwasanaethau Ffotograffiaeth Glinigol, delweddu Offthalmig, Graffeg a Fideo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gyda chymorth stiwdios lloeren yn Ysbyty Nevill Hall, mae gwasanaethau Ysbyty Aneurin Bevan a Meddygfeydd yn cael eu hehangu i ddod â gofal cleifion yn nes at adref.
Ymgymerir â'r holl waith gan Ffotograffwyr Clinigol cymwysedig a chofrestredig yr AHCS.
Defnyddir ffotograffiaeth glinigol i ddarlunio cyflyrau cleifion a gellir eu cymryd ar gyfer cofnodion meddygol, addysgu, treialon clinigol a chyhoeddi. Mae'n well tynnu lluniau yn y stiwdio ond gall y ffotograffwyr ymweld â chleifion mewn ardaloedd clinigol pan nad yw hynny'n bosibl.
Mae Ffotograffiaeth Glinigol wedi dod yn rhan annatod o lwybr gofal cleifion Dermatoleg trwy ddarparu gwasanaeth Teledermatoleg. Penodir cleifion o atgyfeiriad gan Feddyg Teulu er mwyn i ddelweddau diagnostig gael eu cymryd. Mae dermatolegwyr yn adrodd ar y delweddau ac mae'r cleifion yn cael eu brysbennu yn unol â hynny.
Bydd y Ffotograffydd Clinigol yn eich galw i mewn i'r stiwdio, yn egluro pwrpas yr apwyntiad a beth fydd yn digwydd. Byddant hefyd yn cael caniatâd i dynnu lluniau a'u storio yn eich cofnodion meddygol.
Bydd ffotograffau'n cael eu tynnu o'r ardal a nodir yn eich atgyfeiriad yn unig a wneir gan eich meddyg teulu. Yna bydd y ffotograffau diagnostig yn cael eu huwchlwytho i'n cronfa ddata ddiogel o ddelweddau er mwyn i'r Ymgynghorydd eu gweld a gwneud diagnosis.
Sylwch: Mae'r apwyntiad hwn ar gyfer Ffotograffiaeth Glinigol yn unig, ni fyddwch yn gweld Ymgynghorydd/Meddyg Dermatoleg.
Bydd yr ymgynghorydd yn anfon adroddiad atoch chi a'ch meddyg teulu o fewn 3-4 wythnos. Bydd hwn yn cynnwys diagnosis a manylion am yr hyn fydd yn digwydd nesaf.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddychwelyd i gael ail ffotograffau ymhen 3-6 mis er mwyn cymharu, efallai y gofynnir i chi fynychu apwyntiad claf allanol Dermatoleg neu gael eich rhyddhau yn ôl i ofal eich meddyg teulu.
Wrth fynychu eich apwyntiad Teledermatoleg, peidiwch â gwisgo colur na gemwaith yn yr ardal y tynnir llun ohoni. Fe'ch cynghorir hefyd i wisgo dillad y gellir eu tynnu'n hawdd.
Bydd y Ffotograffydd Clinigol yn eich galw i mewn i'r stiwdio, yn egluro pwrpas yr apwyntiad a beth fydd yn digwydd. Byddant hefyd yn cael caniatâd i dynnu lluniau a'u storio yn eich cofnodion meddygol.
Bydd ffotograffau'n cael eu tynnu o'r ardal a nodir yn eich atgyfeiriad yn unig a wneir gan eich Meddyg Teulu/Optegydd. Yna bydd y ffotograffau diagnostig yn cael eu huwchlwytho i'n cronfa ddata ddiogel o ddelweddau er mwyn i'r Ymgynghorydd eu gweld a gwneud diagnosis.
Sylwch: Mae'r apwyntiad hwn ar gyfer Ffotograffiaeth Glinigol yn unig, ni fyddwch yn gweld Ymgynghorydd/Meddyg Offthalmoleg.
Bydd yr ymgynghorydd yn anfon adroddiad atoch chi a'ch Meddyg Teulu/Optegydd o fewn 3-4 wythnos. Bydd hwn yn cynnwys diagnosis a manylion am yr hyn fydd yn digwydd nesaf.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddychwelyd am ail ffotograffau ymhen 3-6 mis er mwyn cymharu, efallai y gofynnir i chi fynychu apwyntiad claf allanol Offthalmoleg neu gael eich rhyddhau yn ôl i ofal eich Meddyg Teulu/Optegydd.
Wrth fynychu eich apwyntiad Telelid, peidiwch â gwisgo colur na gemwaith yn yr ardal y tynnir llun ohoni.
Mae delweddu offthalmig yn cael ei wneud yn bennaf yn yr adran Offthalmoleg. Darperir y gwasanaethau canlynol:
Cyfeiriwch at yr adran Offthalmoleg yn y tab Gwybodaeth Gwasanaeth am ragor o wybodaeth a chyngor ar gyfer eich ymweliad.
Dydd Llun - Dydd Iau 8:30yb - 5:00yp
Dydd Gwener 8:30yb - 4:30yp
Bloc 7 (Uwchben y Llyfrgell a'r Ganolfan Israddedig)
Saif y tu cefn i adeilad y Prif Ysbyty
Llawr gwaelod ym Mhrif ardal aros Cleifion Allanol
Trethomas/Bedwas, Caerffili
Dydd Mercher yn unig
Adran Darlunio Meddygol
Llawr gwaelod ar hyd y coridor sy'n cysylltu'r Dderbynfa â'r man aros
Dydd Mawrth yn unig
Ystafell 10 yn y Prif Gleifion Allanol
Prynhawn dydd Mawrth yn unig
Llawr 2 Man Gwaith Ystwyth
Adran Ffotograffiaeth Glinigol a Darlunio Meddygol
Ysbyty Brenhinol Gwent
Casnewydd
Gwent
NP20 2UB
01633 234185 / x44185