Mae Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn (FLS) yn fodel gofal penodol a ffurfiwyd gan nyrsys, meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n arbenigo mewn osteoporosis, iechyd esgyrn ac atal toriadau esgyrn. Mae’r FLS fel arfer yn cael ei arwain gan geriatregydd ymgynghorol neu riwmatolegydd ymgynghorol a chânt eu cynorthwyo gan Nyrs Glinigol Arbenigol (CNS) gyda’r nod o leihau’r risg o dorri asgwrn yn y dyfodol.
Rydym yn nodi pobl dros 50 oed sydd wedi torri asgwrn oherwydd breuder, a’n hamcan yw lleihau’r posibilrwydd y byddant yn cael toriadau pellach.
Mae Nyrs Glinigol Arbenigol (CNS) yn mynd ati’n rhagweithiol i adnabod cleifion sydd wedi torri asgwrn ar sail system gyfan, gan ddefnyddio pelydrau-x neu sganiau diweddar fel arfer, weithiau nid yw’r claf yn gwybod eu bod wedi torri asgwrn – rydym yn galw hyn yn ganfyddiad damweiniol.
Os byddwn yn amau eich bod wedi dioddef torasgwrn breuder, byddwn yn cysylltu â chi i gwblhau asesiad iechyd ac i ofyn cwestiynau pellach i chi am iechyd eich esgyrn. Mae hyn yn ein helpu i gadarnhau a ydych wedi dioddef torasgwrn breuder ac os felly, trefnu ymchwiliadau pellach.
Os bernir eich bod yn wynebu risg uchel o doriadau asgwrn yn y dyfodol, yna bydd yr FLS yn hwyluso cychwyn triniaeth osteoporosis effeithiol i chi a bydd ein cydlynwyr yn trefnu i chi gael eich asesu gan nyrs neu feddyg dros y ffôn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu iechyd esgyrn yng Nghymru a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau rheoli torasgwrn breuder eilaidd.