Rydym yn dîm arbenigol sy'n darparu arbenigedd mewn cefnogi a chryfhau'r perthnasoedd pwysig rhwng babanod a'u rhieni/gofalwyr. Rydym yn gweithio'n agos gyda theuluoedd trwy ddulliau atal meddylgar ac ymyrraeth gynnar i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob babi. Rydym yn gweithio gyda'r holl wasanaethau o amgylch teulu i gefnogi'r berthynas gynnar a hyrwyddo lles emosiynol.
Mae'r 1000 diwrnod cyntaf o fywyd yn gyfle unigryw o ran twf a datblygiad. Yn ystod y cyfnod hwn mae ymennydd babanod yn cael ei siapio gan y berthynas sydd ganddynt â'u rhiant/gofalwr/gofalwyr. Gall anawsterau mewn perthnasoedd cynnar gael effaith barhaol ar ddatblygiad plentyn. Yn ystod babandod, ni all babanod siarad am eu teimladau a'u hanghenion, ond maent yn cyfathrebu'r rhain mewn gwahanol ffyrdd, sydd weithiau'n anodd eu deall.
Rydym yn gweld darpar rieni a rhieni newydd a all fod yn cael anawsterau yn teimlo cysylltiad emosiynol â’u babi am amrywiaeth o resymau gan gynnwys:
- Genedigaeth trawmatig neu feichiogrwydd llawn straen
- Teimlo'n fod pethau'n eich llethu, teimlo'n bryderus neu'n isel
- Colli babi neu golli sawl babi yn ystod beichiogrwydd yn y gorffennol
- Sylweddoli eich bod yn poeni gormod
- Pryderon eraill a allai fod gennych am eich perthynas â'ch babi
Bydd y person sy'n gweithio gyda chi, fel eich ymwelydd iechyd neu feddyg teulu, yn gofyn a hoffech gael cymorth gan ein tîm. Os byddwch yn cytuno byddant yn siarad ag un ohonom i'n helpu i ddeall ychydig mwy amdanoch chi a'ch baban. Gyda'n gilydd gallwn wedyn benderfynu ar y camau nesaf mwyaf defnyddiol i chi a'ch teulu.
Gallwch anfon e-bost atom ar: G-PIMHS.ABB@wales.nhs.uk