Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth y bledren a'r coluddyn


Croeso i Wasanaeth y Bledren a'r Coluddyn

Mae anymataliaeth yn broblem gyffredin i bob oed, a phryd bynnag y bydd yn digwydd gall fod yn ofidus ac yn embaras, gan danseilio ansawdd bywyd yn fawr, gan amharu ar annibyniaeth ac urddas yr unigolyn. Nod gwasanaeth y bledren a'r coluddyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw darparu gofal hygyrch, diogel sy’n seiliedig ar dystiolaeth i bobl o bob oed sy’n byw gyda chamweithrediad y bledren a’r coluddyn. Rydym yn wasanaeth a arweinir gan nyrsys sy'n ymfalchïo mewn cynnig cefnogaeth deg ac o ansawdd uchel i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a staff.