Neges gan y Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol
Mae’r Pecyn Cymorth hwn wedi’i ddatblygu gan y tîm Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol i helpu merched beichiog a mamau newydd gydag offer hunangymorth i chi roi cynnig arnynt, i gynnig rhywfaint o arweiniad ac i geisio’ch helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.
Lles Emosiynol yn ac o gwmpas genedigaeth
Yng Ngwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal caredig, medrus a thosturiol i chi. Credwn yn gryf y dylai menywod allu gwneud dewisiadau cwbl wybodus ynghylch eu gofal mamolaeth, ac rydym am eich cefnogi yn y dewisiadau a wnewch.
Archwiliwch y tudalennau hyn lle gallwch weld pa wasanaethau sydd ar gael i chi yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.